Swansea University

CURRENT RESEARCH

(1) St.Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale – Cais am Adborth

Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio lledaeniad y defnyddir y St Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale ar hyn o bryd gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd a defnyddwyr gwasanaeth ar draws y byd. Yn benodol, rydym am ddysgu mwy am ble, sut a pham y defnyddir y SASNOS; ei fanteision a ragwelir, a sut y gallai o bosib addasu/gwella’r teclyn ymhellach gynyddu ei ddefnyddioldeb i ymarfer clinigol ac ymchwil. Bydd eich ymateb yn ein helpu ni i gyflawni hyn. Yn naturiol bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r arolwg ar-lein yn dibynnu ar y manylion yr ydych yn fodlon eu rhannu. Er hynny, rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd oddeutu 15 munud i’w gwblhau. Gellir cael mynediad i’r arolwg yma: https://swanseachhs.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_4TQg1gWhHzNQEo5

Cyn i chi benderfynu cymryd rhan neu beidio, byddwch yn derbyn taflen wybodaeth sy’n esbonio pam yr ydym yn gwneud yr ymchwil yma a beth fydd ei chynnwys. Wedi i chi ddarllen y daflen wybodaeth, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gydsynio. Nodwch eich bod yn rhydd i dynnu’n ôl o’r ymchwil ar unrhyw adeg heb reswm neu ragfarn.

Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen y wybodaeth yma, a pheidiwch ag oedi cysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

PREVIOUS RESEARCH

Mae’r astudiaethau ymchwil canlynol bellach wedi CAU. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan. Gwerthfawrogwn eich cymorth yn fawr. 

(1) Dilysu St. Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale (SASNOS) – Rheoli Data Diwygiedig. RESEARCH NOW CLOSED.

Gwirfoddolwyr eu hangen ar gyfer ymchwil seicoleg ar ddatblygiad teclyn asesiad anaf ymennydd.

Rydym yn arwain ymchwil er mwyn adolygu ac ail-ddilysu St Andrews-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale (SASNOS).

Rydym yn chwilio am unigolion rhwng 18 a 65 mlwydd oed, sy’n siarad Saesneg yn rhugl, ac nad oes ganddynt unrhyw hanes o glefyd/anaf niwrolegol i gymryd rhan mewn astudiaeth syml ar-lein.

Bydd gofyn i ymgeiswyr i lenwi cyfres o holiaduron ar-lein a fydd yn cymryd oddeutu 15-20 munud i’w cwblhau.

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil yma, cliciwch yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/MZSJ3GS

Os hoffech siarad am yr ymchwil yma neu ofyn unrhyw gwestiynau i’r tîm, cysylltwch gyda ni: SASNOS@swansea.ac.uk.

 

(2) Gwirfoddolwyr eu hangen ar gyfer Astudiaeth Hydredol Byr i Ddilysu Holiadur Anaf i’r Ymennydd. RESEARCH NOW CLOSED.

Rydym yn arwain ymchwil i adolygu ac ail-ddilysu teclyn asesiad a ddefnyddir yn aml mewn adfer anaf i’r ymennydd, a adnabyddir fel y St Andrews-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale (SASNOS),

Rydym yn chwilio am unigolion rhwng 18 a 65 mlwydd oed, sy’n siarad Saesneg yn rhugl, ac nad oes ganddynt hanes o glefyd/anaf niwrolegol i gymryd rhan.

Gofynnir i chi fynychu dwy sesiwn yn yr Adran Seicoleg (Prifysgol Abertawe) bythefnos ar wahân a llenwi cyfres o holiaduron. Bydd pob sesiwn yn cymryd oddeutu 15-20 munud.

Os yr ydych yn fyfyiwr Seicoleg ac yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn derbyn tri credyd astudio fel diolch am gymryd rhan.

Cysylltwch a’r tîm os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil yma, gofynnwch unrhyw gwestiynau i ni, neu os hoffech drafod ymhellach: SASNOS@swansea.ac.uk.

css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University