Swansea University

Caiff Anabledd Niwroymddygiadol (NBD) effaith enfawr ar ganlyniad seicogymdeithasol hirdymor yn dilyn anaf caffaeledig i’r ymennydd (ABI). Mae’n derm sy’n disgrifio clwstwr treiddiol cymhleth, cynnil o newidiadau ymddygiadol gwybyddol sy’n cymeriadu ABI ol-ddifrifol. Mae anawsterau emosiynol, problemau gydag anoddefiad mewnwelediad gwael, diffyg ymwybyddiaeth ac ymddygiad ymosodol oll yn adlewyrchu NBD.

Mae NBD yn tanseilio annibyniaeth gymdeithasol a chaiff ei chysylltu gyda phrognosis gwael. O ganlyniad, mae argaeledd o asesiad dibynadwy, dull dilys o NBD yn ddymunol iawn. Mae mesurau safonol wedi adnabod elfennau seicometreg sy’n hysbysu dilysrwydd a dibynadwyedd. Er hynny, bu adolygiad a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Brain Injury yn 2008 yn amlygu bod mesur rheolaidd, dilys sy’n dal nodweddion cynnil, amrywiol o NBD yn ddigonol ,eto i’w ddatblygu.

Datblygwyd ‘The St Andrews-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale’ (SASNOS)  i lenwi’r bwlch yma.

 

Mae’r SASNOS yn cysyniadu ac wedi ei chynllunio’n arbennig ar gyfer ABI, gydag eitemau digonol i ddal amrywiaeth o NBD, ac mae ganddi nodweddion seicometreg gadarnhaol, gan olygu bod asesiadau sengl o NBD yn cynhyrchu canlyniadau dibynadwy.

 

Cryfder arall SASNOS yw argaeledd o ddata gan bobl sy’n iach yn niwrolegol, hwyluso adnabyddiaeth o symptomau NBD mewn unigolion gydag ABI mwy cyffredin nag ymhlith y boblogaeth gyffredinol.

 

Ers 2011 mae SASNOS wedi gweld defnydd rhyngwladol, yn cynnwys Awstralia, Chile, Canada, Ffrainc, Denmarc, Sbaen, Yr Iseldiroedd, Iwerddon a Seland Newydd. O fewn y DU, mae wedi ei chefnogi gan sefydliadau sy’n darparu niwroadferiad a chaiff ei defnyddio’n rheolaidd i fonitro gwasanaethau clinigol ac effeithiolrwydd cost. Caiff SASNOS hefyd ei defnyddio’n rheolaidd ar gyfer pwrpasau ymchwil.

 

css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University