Prosiectau presennol

Astudiaeth garfan yn dilyn VTE: Mae astudiaeth feintiol hydredol o gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn parhau. Mae’n mesur lefelau trallod (hwyliau, PTSD, pryder ynghylch iechyd) a’u rhagfynegyddion (gan gynnwys credoau ynghylch salwch a thriniaeth, symptomau peri-trawmatig a phryderon iechyd parhaus). Cymerir mesuriadau pan fydd cleifion yn mynd i’w hapwyntiadau claf allanol cyntaf ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty a chwe mis yn ddiweddarach.

Datblygu ymyriad seicolegol i helpu pobl yn dilyn VTE. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu ac yn treialu ymyriad hunangymorth i helpu pobl yn dilyn VTE. Nododd ein hymchwil ansoddol fod llawer o bobl yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am VTE a’i driniaeth, a bod ganddynt bryderon iechyd sylweddol yn dilyn y profiad. Felly, mae ein hymyriad yn darparu gwybodaeth am VTE, ei driniaeth a rhai strategaethau syml ar gyfer ymdrin ag unrhyw bryder neu ofidiau a all fod gan unigolion. Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd a bwriadwn addasu a phrofi fersiwn ddiwygiedig mewn hap-dreial rheoli llawn.  Mae fersiwn gynnar o’r ymyriad ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan.

P’un a ydych yn ymarferydd iechyd proffesiynol neu’n unigolyn sydd wedi profi VTE, byddem yn hapus i chi lawrlwytho’r ymyriad a’i ddefnyddio (byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion amdanoch chi cyn y gallwch gael mynediad iddo). Os oes gennych unrhyw sylwadau am yr ymyriad, byddem yn ddiolchgar amdanynt hefyd a gallent ein cyfeirio wrth i ni ddatblygu’r fersiwn ddiwygiedig.

 

Dau brosiect sy’n cael eu paratoi ar hyn o bryd

  1. Astudiaeth ansoddol o brofiadau menywod ifanc sydd wedi profi VTE.
  2. Cyfres o astudiaethau sy’n archwilio’r prosesau gwybyddol sydd ynghlwm wrth ddatblygu a chynnal pryder iechyd yn sgil VTE. Bydd hyn yn cynnwys nifer o ddulliau arolygu ac arbrofol, gan gynnwys olrhain symudiad y llygaid, tasgau dot probe a thasgau penderfyniadau geiriadurol.

Prosiectau a phapurau blaenorol

Astudiaeth feintiol o gyffredinolrwydd a rhagfynegyddion pryder iechyd a PTSD: Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gan wefan Thrombosis UK (Lifeblood gynt). Cymerodd dros 150 o bobl ran yn yr astudiaeth a fu’n archwilio cyffredinolrwydd a rhagfynegyddion trallod emosiynol ymhlith pobl a oedd wedi profi VTE. Uchafbwyntiau’r astudiaeth oedd y canfyddiadau bod 44% o’r ymatebwyr wedi sgorio’n uwch na’r sgoriau trothwy ar gyfer lefelau clinigol o bryder iechyd a PTSD.  Roedd yn ddiddorol bod lefelau trallod yn gyfartal mewn pobl a oedd wedi cael thrombosis gwythiennau dwf a’r rhai a oedd wedi profi embolws yr ysgyfaint. Bu’r astudiaeth hefyd yn archwilio rhagfynegyddion pryder iechyd a PTSD, gan gynnwys credoau ynghylch iechyd a gwerthusiad o fygythiad adeg y profiad ac yn sgil y profiad.

Astudiaeth feintiol o’r profiad yn dilyn embolws yr ysgyfaint: Yr astudiaeth hon oedd yr astudiaeth ansoddol gyntaf, hyd y gwyddom, i ystyried effaith hirdymor embolws yr ysgyfaint ar fywyd beunyddiol ac i ystyried ei ganlyniadau trawmatig posib. Roedd yn cynnwys cyfres o gyfweliadau â chleifion a oedd wedi profi embolws yr ysgyfaint rhwng naw a 60 mis cyn y cyfweliad. Roeddent yn disgrifio embolws yr ysgyfaint fel profiad a newidiodd eu bywydau, gyda’r sioc gychwynnol yn cael ei dilyn gan ymdeimlad o golli hunaniaeth, penderfyniadau a allai newid eu bywydau ac addasu eu hymddygiad. Disgrifiwyd nodweddion anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a’r rhai mwyaf cyffredin oedd ôl-fflachiadau, lefelau uwch o wyliadwriaeth a meddyliau mewnwthiol. Nododd y cyfranogwyr sawl maes lle’r oedd angen cymorth ar gleifion o’r math, gan gynnwys mynediad mwy cyfleus i gymorth drwy ddarparu gwybodaeth a chymorth emosiynol.

Astudiaeth garfan feintiol o gleifion VTE: Yn dilyn ein hastudiaeth ansoddol gyntaf, bu’r astudiaeth hon yn dilyn carfan fwy cynrychiadol o gleifion a chynhaliwyd cyfweliadau yn y chwe mis cyntaf ar ôl VTE. Mae papur dilynol, a fydd yn cynnwys cyfweliadau â’r un cleifion, chwe mis yn ddiweddarach, yn cael ei baratoi. Nodwyd pedair thema allweddol a 10 is-thema. Y prif themâu oedd: VTE fel profiad trawmatig sy’n newid bywydau; byw gydag ansicrwydd ac ofn y bydd y cyflwr yn dychwelyd; ymdeimlad  o siom gyda’r gwasanaethau iechyd; newidiadau a chanlyniadau cadarnhaol. Roedd cynnwys y themâu yn amrywio yn ôl oedran y cyfranogwyr wrth gael y VTE a’u profiadau o ddiagnosis a thriniaeth. Roedd pobl ifanc yn profi problemau penodol oherwydd bod ganddynt bryderon iechyd hirdymor ac ychydig o bobl y gallent ymddiried ynddynt a phryderon sylweddol ynghylch y dyfodol.

  • Hunter, R.A., Lewis, S., Rance, J., Noble, S. & Bennett, P. (in revision) Post-Thrombotic Panic Syndrome: a qualitative exploration of the experience of Venous-Thromboembolism. British Journal of Health Psychology

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University