Helpu pobl yn dilyn VTE
Un o nodau allweddol ein hymchwil yw datblygu ymyriad seicolegol i helpu pobl yn dilyn VTE. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu ac yn treialu ymyriad hunangymorth i helpu pobl yn dilyn VTE. Nododd ein hymchwil ansoddol fod llawer o bobl yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am VTE a’i driniaeth, a bod ganddynt bryder iechyd sylweddol yn dilyn y profiad. Felly, mae ein hymyriad yn darparu gwybodaeth am VTE, ei driniaeth a rhai strategaethau syml ar gyfer ymdrin ag unrhyw bryderon neu ofidiau a all fod gan unigolion. Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd a bwriadwn addasu a phrofi fersiwn ddiwygiedig mewn hap-dreial rheoli llawn. Os hoffech weld fersiwn gynnar o’r ymyriad, dilynwch y ddolen.
P’un a ydych yn ymarferydd iechyd proffesiynol neu’n unigolyn sydd wedi profi VTE, byddem yn hapus i chi lawrlwytho’r ymyriad a’i ddefnyddio (byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion amdanoch chi cyn y gallwch gael mynediad iddo). Os oes gennych unrhyw sylwadau am yr ymyriad, byddem yn ddiolchgar amdanynt a gallent ein cyfeirio wrth i ni ddatblygu’r fersiwn ddiwygiedig.
p.foscarini-craggs Mehefin 28th, 2016
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University