Y grŵp ymchwil

Mae’r grŵp ymchwil amlddisgyblaethol yn cael ei arwain o Brifysgol Abertawe. Mae’r aelodaeth graidd yn cynnwys

  • Yr Athro Paul Bennett:  seicolegydd iechyd clinigol sy’n ymddiddori mewn sut mae pobl yn ymdopi ag afiechyd a bygythiad afiechyd.
  • Dr Rachel Hunter: seicolegydd clinigol sy’n gwneud PhD ar hyn o bryd sy’n cynnwys astudiaethau ansoddol a meintiol o effaith VTE.

 

Mae nifer o ymchwilwyr a chlinigwyr eraill yn ymwneud â phrosiectau penodol sy’n gysylltiedig â VTE.

  • Dr Robert Lowe (Prifysgol Abertawe): seicolegydd iechyd sy’n ymddiddori mewn rheoleiddio emosiynol mewn ymateb i ddigwyddiadau ingol.
  • Dr Steve Johnston (Prifysgol Abertawe): niwroseicolegydd sy’n ymddiddori mewn niwrofecanweithiau gwybyddol.
  • Yr Athro Simon Noble (Prifysgol Caerdydd): meddyg ac academydd sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n ymddiddori mewn VTE, yn enwedig mewn perthynas â chanser.
  • Dr Sarah Lewis (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan): meddyg sy’n cynnal gwasanaeth clinigol ar gyfer pobl sydd wedi profi VTE.

Ar hyn o bryd, bwriedir penodi myfyriwr PhD i’w ariannu gan fwrsariaeth Prifysgol Abertawe.

Mae cysylltiadau cryf rhwng y grŵp ymchwil a Thrombosis UK sy’n cefnogi llawer o waith y grŵp.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University