Beth yw thrombo-emboledd gwythiennol?

Thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio tolchen waed yn system wythiennol y corff. Pan geir tolchen yn y goes, cyfeirir ati fel thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) ac weithiau, gall deithio i’r ysgyfaint gan achosi embolws yr ysgyfaint (PE). Mae DVT a PE sydd, gyda’i gilydd, yn cael eu hadnabod fel VTE, yn digwydd yn ddirybudd fel arfer a gallant achosi amrywiaeth o symptomau, o boen a chwyddo yn y goes i ddiffyg anadl trallodus neu farwolaeth hyd yn oed yn achos embolws enfawr. Yn Lloegr, ceir 25,000 o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn oherwydd VTE sy’n dechrau mewn ysbytai (Yr Adran Iechyd a’r Prif Swyddog Meddygol, 2007). Mae’r ffigur hwn yn uwch na chyfanswm cyfunol y marwolaethau oherwydd canser, AIDS a damweiniau ffyrdd, a thros 25 gwaith yn uwch na nifer y bobl sy’n marw o MRSA bob blwyddyn.

Tybir bod 70 y cant o holl embolysau’r ysgyfaint yn dechrau yn yr ysbyty (o fewn 90 o ddiwrnodau i dderbyn y claf) a bod y costau llys cysylltiedig yn esbonio i ryw raddau’r gost amcangyfrifol (£640 miliwn) o reoli VTE yn y DU (Pwyllgor Dethol Iechyd Tŷ’r Cyffredin, 2005).

Mae canlyniadau corfforol tymor hir VTE wedi’u cofnodi’n helaeth. Yn benodol, mae syndrom ôl-thrombws yn ffactor cymhlethu yn 25 i 50 o achosion o DVT; a bydd 0.4 i 4 y cant o’r cleifion sy’n profi PE yn datblygu gorbwysedd thrombo-embolig yr ysgyfaint. Mae’r ddau gymhlethdod hyn yn cynrychioli baich gofal iechyd sylweddol a gall fod angen llawfeddygaeth o’u herwydd.

Pam seicoleg?

Mae dechrau VTE (yn enwedig embolws yr ysgyfaint) yn aml yn acíwt, yn annisgwyl a gall fod yn hynod ddychrynllyd.  Yn ogystal, mae profi un VTE yn golygu bod yr unigolyn mewn perygl sylweddol o un dilynol, sy’n debygol o fod yn fwy niweidiol na’r un cyntaf. Mae’n bosib hefyd y bydd rhaid cymryd meddyginiaeth reolaidd sy’n golygu bod angen profion gwaed rheolaidd. Felly, mae pobl sy’n profi VTE yn ymdopi â phrofiad cychwynnol ingol iawn, bygythiad digwyddiadau’r dyfodol a chymryd meddyginiaeth reolaidd. Nid yw’n synod, efallai, fod anawsterau seicolegol yn gyffredin. Mae ein hymchwil ni wedi dangos y canlyniadau hyn:

  • Mae tua 25% o bobl sydd wedi profi DVT neu PE yn debygol o gael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
  • Bydd hyd at 45% yn profi lefelau clinigol o bryder ynghylch iechyd

Gallant hefyd brofi anawsterau wrth addasu i’r newidiadau yn eu ffordd o fyw a allai ddeillio o VTE a dibynnu ar feddyginiaeth hirdymor.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University