Swansea University

Mehefin 21 2019 – Lansio astudiaeth ymchwil i gasglu adborth o’r SASNOS

Mae awduron y SASNOS am ddysgu mwy am ble, sut a pham y defnyddir y teclyn; ei fanteision canfyddedig a sut y gallai o bosib cael ei addasu/wella i gynyddu ei ddefnyddioldeb ymhellach i ymarfer clinigol ac ymchwil.

Os yr ydych yn defnyddio SASNOS ac mae modd i chi dreulio oddeutu 15 munud o’ch amser, byddem wrth ein bodd yn cael clywed oddi wrthych! Medrwch gael mynediad i’r arolwg yma.

Mai 22 2019 – Dr Claire Williams yn mynychu Derbyniad Lobio Seneddol
Fel aelod pwyllgor y South Wales Acquired Brain Injury Forum, mynychodd Dr Claire Williams dderbyniad anaf i’r ymennydd yn The Speakers House yn y Senedd ar 22ain Mai 2019.

Mae The United Kingdom Acquired Brain Injury Forum a’r All-Party Parliamentary Group (APPG) ar gyfer Anaf i’r Ymennydd a Gaffaelwyd yn datblygu eu hymateb i adborth y llywodraeth i’r adroddiad; Acquired Brain Injury and Neurorehabilitation: Time for Change a bydd yn datblygu strategaeth i fynd â’r argymhellion yn eu blaen.

Medrwch weld adroddiad APPG YMA (hypergyswllt- https://www.ukabif.org.uk/campaigns/appg-report/)

 

 

Mawrth 07 2019 – Papur newydd yn cynnwys y SASNOS!

Alderman, Nick., Pink, Aimee E., Williams, Claire., Ramos, Sara da Silva., Oddy, Michael., Knight, Caroline., Jenkins, Keith G., Barnes, Michael P. & Hayward, Chloë. (2019). Optimizing measurement for neurobehavioural rehabilitation services: A multisite comparison study and response to UKROC. Neuropsychological Rehabilitation, 1-30. https://doi.org/10.1080/09602011.2019.1582432

Yn y papur hwn archwiliwn ddulliau lluosog i bennu
ymatebolrwydd o ganlyniad pedwar mesur a ddefnyddir yn rheolaidd NbR (HoNOS-ABI, FIM + FAM UK, MPAI-4, SASNOS).
Edrychwn hefyd ar ddilysrwydd rhagfynegol dau fesur o gymhlethdod adsefydlu (RCS-E, SRS) ynglŷn â maint y sgoriau gwahanol ar ganlyniadau’r mesurau hyn ar adeg ailasesiad. Gwneir argymhellion ynglŷn â nodweddion delfrydol mesurau canlyniad NbR, ynghyd â’r angen i ddatblygu mesurau cymhlethdod adsefydlu a chysyniadu yn benodol ar gyfer y rhaglenni hyn.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau gwasanaethau’r Independent Neurorehabilitation Providers Alliance am eu cefnogaeth a’u cyfraniad parhaol i gynllun cychwynnol a chaffaeliad o astudiaeth data.

 

Chwefror 05 2019 – Papur newydd a gyhoeddwyd yn defnyddio fersiwn Iseldiraidd o’r SASNOS

Mae cydweithwyr yn Nenmarc newydd gyhoeddi ymchwil newydd drwy ddefnyddio y SASNOS i archwilio (1) amlder anabledd niwroymddygiadol a raddiwyd gan gleifion a dirprwyon; (2) ffactorau sy’n gysylltiedig ag anabledd niwroymddygiadol, a (3) chydweddiad rhwng adroddiadau am anabledd niwroymddygiadol gan gleifion a dirprwyon.

Soendergarard, P.L., Siert, L., Poulsen, I., Wood, R.Ll., & Norup, A. (2019). Measuring Neurobehavioral Disabilities among Severe Brain Injury Survivors: Reports of Survivors and Proxies in the Chronic Phase. Frontiers in Neurology. https://doi.org/10.3389/fneur.2019.00051

 

Rhagfyr 15 2018 – Trydydd Gynhadledd Flynyddol Anaf i’r Ymennydd yn Digwydd!

Ar 26 Tachwedd 2018 cynhaliwyd ein trydedd gynhadledd flynyddol yn Abertawe yng Ngwesty’r Marriott, gan ddod â rhai o arbenigwyr arweiniol ynghyd mewn anaf i’r ymennydd a gaffaelwyd i gyflwyno’r datblygiadau diweddaraf mewn rheoli anabledd niwroymddygiadol.
Mae adroddiad llawn y gynhadledd yma: YMA
Gellir dod o hyd i luniau o’r Digwyddiad YMA

Cadw’r Dyddiad: Bydd ein cynhadledd nesaf ar 25/11/2019

 

 

Rhagfyr 09 2017 – Ail Gynhadledd Flynyddol Anaf i’r Ymennydd yn Llwyddiant Ysgubol

Ar 27 Tachwedd 2017 cynhaliwyd ein hail gynhadledd flynyddol yn Abertawe yng Ngwesty’r Marriott, gan ddod â rhai o’r arbenigwyr blaenllaw mewn anaf i’r ymennydd at ei gilydd i gyflwyno’r datblygiadau diweddaraf o ran rheoli ymddygiad heriol ac anfantais gymdeithasol yn dilyn anaf i’r ymennydd.

Yn ogystal ag ensemble trawiadol o siaradwyr, denodd y gynhadledd amrywiaeth o arddangoswyr a thros 100 o gynrychiolwyr â diddordeb mewn a / neu’n ymwneud â gofalu am unigolion ag ABI. Fe wnaeth y gynhadledd ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol i gynadleddwyr i rannu gwybodaeth ac roedd digon o gyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau, gan alluogi darlledu mewnwelediadau a dadleuon pellach. Roedd y digwyddiad cyfan yn llawn egni a brwdfrydedd!
Gellir dod o hyd i luniau o’r digwyddiad YMA
Cadw’r Dyddiad: Bydd y gynhadledd y flwyddyn nesaf yn digwydd ar 26/11/2018

 

Rhagfyr 07 2017 – Papur newydd SASNOS bellach ar gael i’w lawrlwytho

Alderman, N., Williams, C., & Wood, R. (2017). When normal scores don’t equate to independence: recalibrating ratings of neurobehavioural disability from the ‘St Andrew’s – Swansea Neurobehavioural Outcome Scale’ to reflect context-dependent support. Brain Injury, 1-12. doi:10.1080/02699052.2017.1406989
Medrwch gael mynediad i argraffiad rhad ac am ddim (ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig) yma

 

 

Tachwedd 23 2017 – Datblygiadau SASNOS Newydd a Gyhoeddwyd mewn Anaf i’r Ymennydd

Mae tîm SASNOS newydd gyhoeddi ymchwil newydd ar gasglu cefnogaeth sy’n dibynnu ar gyd-destun ar raddfeydd anabledd niwroymddygiadol. Dylai’r papur ymddangos ar-lein o flaen llaw’r argraffiad yn y dyddiau nesaf!
Alderman, N., Williams, C., & Wood, R. (in press). When normal scores don’t equate to independence: recalibrating ratings of neurobehavioural disability from the ‘St Andrew’s – Swansea Neurobehavioural Outcome Scale’ to reflect context-dependent support. Brain Injury.

 

 

Hydref 13 2017 – Yr Athro Nick Alderman yn ymuno gydag Elysium Healthcare

Mae’r Athro Nick Alderman wedi ei benodi’n Gyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaethau Niwroymddygiadol yn Elysium Neurological, rhan o Elysium Healthcare.
Lwc dda yn eich swydd newydd!

 

 

Medi 30 2017 – SASNOS yn mynd yn Aml-ieithog

Rydym yn bles cael cyhoeddi bod SASNOS a dogfennau cyfarwyddyd atodol cysylltiedig bellach ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg! I gael copi, cliciwch ar y tab ‘Cysylltu Gyda Ni’ neu anfonwch e-bost yn uniongyrchol at: sasnos@swansea.ac.uk

 

 

Mehefin 24 2017 – Cynhadledd yn Fyw!

Bydd y digwyddiad eleni yn digwydd ar 27 Tachwedd 2017 ac yn mynd i’r afael â “Neurobehavioural Disability after Acquired Brain Injury: Advances in the Management of Social Handicap”.

Bydd y gynhadledd yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes adsefydlu niwrolegol at ei gilydd i ddarparu adroddiadau awdurdodol ar y datblygiadau diweddaraf o ran rheoli ymddygiad heriol ac anfantais gymdeithasol.
Bydd siaradwyr yn cyflwyno adolygiadau o’r radd flaenaf ac yn disgrifio’r datblygiadau diweddaraf o ran sut y gellir lleihau anfantais gymdeithasol yn y pum parth o anabledd niwroymddygiadol a gipiwyd gan St Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale: perthnasoedd rhyngbersonol, swyddogaeth niwro-wybyddol, gwaharddiad, ymddygiad ymosodol a chyfathrebu.
I gofrestru neu am fwy o wybodaeth gwelwch: http://abiswan17.eventbrite.com

 

Mehefin 23 2017 – Bydd SASNOS ar gael cyn hir yn y Gymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y SASNOS ar gael yn fuan yn Gymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Yn ogystal â fersiynau procsi a hunan-raddedig, bydd dogfen arweiniad SASNOS hefyd ar gael ym mhob iaith.

 

Mai 2 2017 – Yn syth o’r wasg: Cyhoeddi’r Gynhadledd!

Yn dilyn llwyddiant ein cynhadledd yn Nhachwedd 2016 ar ‘Reducing the Burden of Neurobehavioural Disability after Acquired Brain Injury: Past, Present and Future’, pleser yw cyhoeddi ein bod wedi diogelu nawdd i gynnal cynhadledd arall yn Nhachwedd 2017. Mae’r rhaglen ar gyfer y digwyddiad yn datblygu’n braf ac mae bwriad cynnal y digwyddiad yng Ngwesty’r Marriott, Abertawe. Byddwn mewn cysylltiad cyn hir gyda manylion ychwanegol a chyfarwyddiadau ar sut ma archebu. Cadwch lygad!

 

Ebrill 5 2017 – Papur wedi ei gyhoeddi mewn Archifau o Niwroseicoleg Clinigol

Mae Alderman, Williams, Knight & Wood newydd gyhoeddi ymchwil newydd yn archwilio ymatebolrwydd o’r SASNOS. I ddarllen yr erthygl yn llawn:
Measuring Change in Symptoms of Neurobehavioural Disability: Responsiveness of the St Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale. Archives of Clinical Neuropsychology, 1-12. doi:10.1093/arclin/acx026

 

Ionawr 18 2017 – Digwyddiad hyfforddiant SASNOS yn dod cyn hir!

Mewn ymateb i geisiadau gan weithwyr proffesiynol ABI ledled De Cymru, rydym yn brysur yn cynllunio sesiwn hyfforddi SASNOS RHAD AC AM DDIM. Cynhelir yr hyfforddiant yn lleol ym Mhrifysgol Abertawe a chaiff ei hysbysebu cyn hir.

 

Tachwedd 30 2016 – Papur wedi ei gyhoeddi mewn

Datblygiadau mewn Niwrowyddoniaeth Clinigol ac Adsefydlu
Mae Alderman, Williams, & Wood wedi cyhoeddi Nodwedd Arbennig mewn ACNR sy’n trafod cymhwysiad o’r SASNOS a datblygiadau newydd. Darllenwch yr erthygl yn llawn yma.
I ddyfynnu: Alderman N, Williams C, Wood R LI. ACNR 2016;16(3):24-25.

 

Tachwedd 28 2016 – Lleihau Baich Anabledd Niwroymddygiadol yn dilyn Anaf i’r Ymennydd a Gaffaelwyd: Gorffennol, Presennol a’r Dyfodol.

Ar 28 Tachwedd 2016, cynhaliodd Prifysgol Abertawe a Partnerships in Care gynhadledd undydd yng Ngwesty’r Marriott yn Abertawe.
Daeth y gynhadledd â rhai o brif arbenigwyr y DU mewn anafiadau i’r ymennydd a gaffaelwyd ynghyd, gan gyflwyno rhaglen gyffrous o sgyrsiau ar gysyniadu, hanes a rheolaeth anabledd niwroymddygiadol.
Ochr yn ochr â chyflwyniadau’r prif siaradwyr gan yr Athro Rodger Wood (Niwroseicolegydd Clinigol ac Athro Emiritws o Seicoleg Clinigol, Prifysgol Abertawe) a’r Athro Tom McMillan (Athro Niwroseicoleg Clinigol, University of Glasgow), siaradwyr gwadd yn cynnwys ensemble nodedig o glinigwyr ac academyddion o ar draws y DU.
Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys sesiwn benodol ar ddefnyddio St Andrew’s-Swansea Neurobehavioural Outcome Scale (SASNOS), gan roi hyfforddiant gwerthfawr i gynadleddwyr i gefnogi ymarfer ac ymchwil clinigol parhaus. Gellir gweld rhaglen lawn y gynhadledd yma.
Gyda thros 90 o gynrychiolwyr yn bresennol ac arddangoswyr o sawl sefydliad allweddol, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol.

Diolchwn i’r cynrychiolwyr, y siaradwyr, y noddwyr a’r arddangoswyr a fynychodd ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiad tebyg yn 2017!

Gwiriwch Uchafbwyntiau’r Gynhadledd.
Gellir hefyd darganfod trafodaethau o’r diwrnod ar ein Tudalen Hyfforddiant.

css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University