Swansea University
Dr. Claire Williams BSc (Anrh), MSc, PhD yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi hanes dda o ymchwil gymhwysol a throsiadol, profiad arweinyddiaeth o gyflwyno prosiectau ymchwil sydd ag effaith glinigol, a phrofiad o ddatblygu offer asesu niwroymddygiadol arbenigol i’w defnyddio mewn anaf i’r ymennydd. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys anabledd niwroymddygiadol, prosesu a rheoleiddio emosiynol, ymddygiadau wedi’u ddadreoleiddio, a mesur canlyniad.

Yr Athro Nick Alderman BA (Anrh) MAppSci PhD CPsychol CSci FBPsS Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol ac Ymgynghorydd Niwroseicolegol Clinigol mewn Gwasnaethau Anaf i’r Ymennydd, Partneriaethau mewn Gofal. Cyn hynny, roedd ganddo swyddi uwch yn Ymddiriedolaeth Adsefydlu Anaf i’r Ymennydd ac yn Ysbyty St Andrew’s, Northampton. Mae’n dal nifer o benodiadau academaidd anrhydeddus ac ymweld, gan gynnwys ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin Lloegr, a Phrifysgol Birmingham. Mae ei brif ddiddordebau’n cynnwys adfer niwroymddygiad, ymddygiad heriol, syndrom anweithredol a mesur canlyniad.

Yr Athro Rodger Llewellyn Wood BA, DCP, PhD, DSc, C Psych, FBPsS yw Athro Emeritus o Niwroseicoleg Clinigol ym Mhrifysgol Abertawe a Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol Anrhydeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol ABMU. Mae wedi gweithio mewn adfer anaf i’r ymennydd ers 1978, yn Uned Kemsley, Northampton, Casa Colina Hospital, California, a gydag Ymddiriedolaeth y Brain Injury Rehabilitation Trust, DU. Mae ei ymchwil presennol yn ffocysu ar natur ac asesiad o niwroymddygiad anaf trawmatig sy’n dilyn.


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University