Gall Seicoleg helpu â thriniaethau anymataliaeth
Mae anymataliaeth yn effeithio ar 25% o fenywod yn y Deyrnas Unedig, a gall effeithio ar 50-60% o fenywod sydd wedi rhoi genedigaeth neu sydd dros 60 oed.
Yn anffodus, er eu bod yn gyffredin, ni chaiff problemau o’r fath eu trafod yn aml, ond gallant fod yn wanychol. Yn ogystal, amcangyfrif y gost i’r GIG yw £1.8 biliwn y flwyddyn.
Gall Ffisiotherapi Iechyd Menywod ddarparu triniaeth effeithiol a diogel am gost sy’n gymharol isel i’r cyhoedd. Dengys ymchwil ar y cyd gan Ysbyty Singleton Abertawe a Phrifysgol Abertawe, fodd bynnag, fod cyflwr meddyliol cleifion yn effeithio ar ganlyniadau ffisiotherapi, a bod llawer o fenywod sy’n dioddef problemau anymataliaeth yn bryderus ac yn isel eu hysbryd [Link to Khan et al., 2012].
Dengys yr ymchwil hwn fod cefnogi menywod yn seicolegol cyn ac yn ystod triniaeth cyhyr llawr y pelfis yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddant yn mynychu triniaethau, yn parhau â’r cwrs llawn o driniaeth ac yn gwella eu hymataliaeth [link to Osborne et al].
Mae’r tîm yn arloesi ffyrdd newydd o gynnwys cefnogaeth seicolegol nawr, i gynyddu hyder menywod i geisio cymorth â’r broblem hon (http://www.swansea.ac.uk/media-centre/latest-research/swanseapsychologistsgiveconfidenceboosttowomenseekinghelpforincontinence.php).
Mae’r ymchwil hwn yn helpu i newid arferion drwy drafodaethau mewn digwyddiadau hyfforddiant proffesiynol ac mae’n cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r mater drwy sylw yn y wasg [Link to Western Mail media piece] ac anerchiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru [link to WAG news story].
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University