Ebrill 2016 :

Yr Athro Lorenzo-Dus yn rhoi prif anerchiad yn Tsile ar ddefnyddio canmoliaeth i ddatblygu ymddiriedaeth drwy dwyll mewn cyd-destunau meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Chwefror 2016:

Dr Izura yn cyflwyno canlyniadau ei gwaith gyda’r Athro Lorenzo-Dus ar broffiliau meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn Tenerife (Sbaen)

Hydref 2015:

Yr Athro Lorenzo-Dus yn cyflwyno papur ym Mhrifysgol Valencia (Sbaen) yn seiliedig ar ganfyddiadau ei hymchwil gyda Dr Izura ar Fodel Cyfathrebu Meithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein.

Ebrill 2015:

Yr Athro Lorenzo-Dus yn rhoi prif anerchiad yng Ngholombia ar ymddiriedaeth a dylanwad wrth gyfathrebu ar-lein, gan gynnwys mewn cyd-destunau meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Mawrth 2015:

Dr Izura a’r Athro Lorenzo-Dus yn cymryd rhan mewn gweithdy atal meithrin perthynas amhriodol ar-lein a gynhaliwyd gan ???

Chwefror 2014:

Yr Athro Lorenzo-Dus a Dr Izura yn traddodi darlith gyhoeddus ar Feithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein: ffeithiau, mythau ac atal ym Mhrifysgol Abertawe (rhan o Wythnos Ymchwil)

 

(1) Meithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein: Ymagwedd Gyfathrebol

(BTG; Tachwedd 2013-Mehefin 2014

  • Nod: datblygu proffil cyfathrebu o ysglyfaethwyr rhywiol ar-lein.
    • Cwestiwn Ymchwil 1: Mewn corpws o ryngweithiadau ar-lein ar sail testun rhwng pedoffiliaid a phobl ifanc, a oes modd nodi camau gwahanol y broses o feithrin perthynas amhriodol?
    • Cwestiwn Ymchwil 2: Ydy ysglyfaethwyr rhywiol ar-lein yn dangos proffil cyfathrebu nodweddiadol (h.y., dewis geiriau, gramadeg, mynegiant y gellir ei nodi)? Ydy’r proffil hwn yn amrywio ar wahanol adegau yn y broses?
  • Corpws: tua 75,000 o eiriau (25 o sgyrsiau meithrin perthynas amhriodol ar-lein) o PervertedJustice.com
  • Canlyniadau:
    • Cwestiwn Ymchwil 1: Oes – Model OGC
    • Cwestiwn Ymchwil 2: Nac ydy – mwy nag un proffil ysglyfaethwr ar-lein, gwahanol baramedrau ar gyfer gwahanol broffiliau.

 

(2) Meithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein: O fodelu cyfathrebol i broffiliau pedoffiliaid (Cronfa Ymchwil ac Arloesi , Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe); Hydref 2014 – Mehefin 2015)

  • Amcanion:
    1. Dilysu’r model OGC
    2. Datblygu dadansoddiad o broffilio OGC
    3. Gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd/effaith
  • Corpws: tua 150,000 o eiriau (75 o sgyrsiau meithrin perthynas amhriodol ar-lein) o PervertedJustice.com

 

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University